Croeso
Bydd ein cynigion yn sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn Aberaman, Aberdâr. Ar hyn o bryd Siop What! Aberaman sydd ar y safle. Byddai hon yn cael ei hisrannu / haneru i ddarparu ar gyfer ei gweithrediad parhaus ochr yn ochr â siop newydd Aldi.
Gan ein bod yn rhannu’r safle â Siop What! byddwn yn adnewyddu ac yn ailddatblygu’r safle i wneud y newidiadau angenrheidiol ar gyfer siop fwyd newydd. Mae gwaith ychwanegol yn cynnwys addasiadau i’r ganolfan arddio bresennol, trefniadau mynediad cludo nwyddau, ail-gyflunio cynllun y maes parcio, tirlunio, a gwaith cysylltiedig arall ar y safle.
Bydd ein cynlluniau yn creu hyd at 30 o swyddi newydd yn y siop yn ogystal â chyflogaeth bellach drwy adeiladu a’r gadwyn gyflenwi. Wedi’i leoli mewn lleoliad cyfleus i drigolion Aberaman bydd trigolion lleol yn cael eu gwasanaethu’n dda gan adwerthwr disgownt cost isel o ansawdd uchel.
Gyda’r siop agosaf nesaf dros 10 milltir i ffwrdd ym Merthyr Tudful, mae Aldi yn credu bod galw am siop newydd yn y lleoliad hwn.
Ymgynghoriad statudol cyn gwneud cais
Yn rhan o’r broses ymgynghori statudol, cychwynnodd Aldi y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio o 28 diwrnod ddydd Llun 28 Tachwedd 2022.
Gallwch ddarllen gwybodaeth fanwl ynghylch y cynigion yn ogystal â’r dogfennau cynllunio drafft yn yr adran Dogfennau a Lawrlwythiadau.
Mae Aldi yn bwriadu cyflwyno ei gais cynllunio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Ionawr 2023.
Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau a’ch adborth ar y cynigion. I weld ein cynlluniau ewch i ‘Arddangosfa Rithwir’ a chwblhewch ein ffurflen adborth ar-lein.