Cynigion

Mae safle’r cynnig ar Ystâd Ddiwydiannol Aberaman ar dir a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Siop What! Aberaman. Gan aros ar y safle bydd Aldi a Siop What! Aberaman yn rhannu’r tir.

Mae cynigion Aldi ar gyfer Aberaman, Aberdâr yn cynrychioli:

  • Buddsoddiad o £5 miliwn yn yr economi leol.
  • Siop fwyd Aldi newydd sbon gydag ardal gwerthu net o 1,380 metr sgwâr.
  • Creu hyd at 30 o swyddi newydd llawn amser a rhan amser i bobl leol.
  • Ailddatblygu ac adnewyddu’r safle ar y cyd â Siop What! Aberaman i greu datblygiad eang, modern, deniadol sy’n gydnaws â’r ardal leol.
  • Siop newydd mewn lleoliad cyfleus, gan leihau’r angen i gwsmeriaid deithio ymhellach i ffwrdd.
  • 156 o leoedd parcio ceir, gan gynnwys chwe chilfach hygyrch bwrpasol, wyth cilfach i rieni a phlant, dwy gilfach clicio a chasglu, 15 o leoedd i staff, a lle i barcio beiciau.
  • Pedwar pwynt gwefru cerbydau trydan gyda seilwaith ychwanegol wedi’i osod ar gyfer 20 arall yn y dyfodol.
  • Parcio am ddim yn siop Aldi am hyd at 90 munud gyda mynediad ac allanfa bresennol trwy’r llwybrau presennol.
  • Cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol yn cael eu darparu yn ystod y gwaith adeiladu a thrwy’r gadwyn gyflenwi.
  • Tirlunio deniadol o amgylch y safle er mwyn gwella ei apêl.

 

Mae gwybodaeth fanwl ar gael yn y dogfennau cynllunio drafft sydd ar gael i’w gweld neu eu lawrlwytho ar ein tudalen ‘Dogfennau a Lawrlwythiadau‘.