Croeso i Wefan ein Hymgynghoriad

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r adwerthwr bwyd Aldi, sydd wedi ennill gwobrau am  ei gynnyrch, yn cydweithio ar gynigion cyffrous ar gyfer Pentref Bwyd newydd yn Llambed, gan ddefnyddio rhan o gaeau chwarae’r Brifysgol ym Mhontfaen.

Bydd y Pentref Bwyd yn cynnwys siop fwyd gymunedol Aldi newydd sbon, ynghyd â chlwstwr o gabanau, a fydd yn rhoi cyfle i arddangos cynnyrch lleol. Yn ogystal bydd yn cynnig lle ar gyfer prosiectau cydweithio sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ymchwil ym maes bwyd a maeth, yn rhan o fenter Canolfan Tir Glas y Brifysgol.

Bydd y Pentref Bwyd yn hyrwyddo ac yn arddangos cynnyrch o Gymru, a gaiff ei werthu mewn siopau lleol ac yn siop fwyd Aldi. Cynhelir digwyddiadau a chynlluniau hyrwyddo rheolaidd, gan wneud defnydd llawn o’r Pafiliwn ar ei newydd wedd, a ddaw’n hwb cymunedol. Bydd y Brifysgol yn cadw ac yn gwella’r cae chwarae i’w ddefnyddio gan y myfyrwyr a’r gymuned leol ar gyfer chwaraeon a hamdden.

Bydd y cynigion cyffrous hyn yn adfywio safle Heol Pontfaen, gan ei wneud yn gyrchfan i ymwelwyr ac yn borth i Lambed, gyda gweithgareddau cysylltiedig yn dangos y ffordd i ganol y dref a champws y Brifysgol.

Mae’r wefan hon yn dweud mwy wrthych am ein cynlluniau i ddod ag Aldi arobryn i’ch ardal ac yn egluro sut y gallwch roi eich adborth inni ar ein cynigion.

Welcome to our Consultation Website

The University of Wales Trinity St. David (UWTSD) and the award-winning food retailer Aldi are collaborating on exciting proposals for a new Food Village for Lampeter, using part of the University’s playing fields at Pontfaen.

The Food Village will include a brand-new Aldi neighbourhood food store, alongside a cluster of pods, providing an opportunity to showcase local products and space for collaborations linked with food and nutrition research activities, as part of the University’s Canolfan Tir Glas initiative.

The Food Village will promote and showcase Welsh produce, sourced and stocked in local shops and within the Aldi foodstore. Regular events and promotions will take place, making full use of the refurbished Pavilion, which will become a community hub. The improved sports pitch will be retained by the University for sporting and recreational use by students and the local community.

These exciting proposals will rejuvenate the Pontfaen Road site, making it a destination for visitors as well as a gateway to Lampeter, with linked activities acting as a signpost to the town centre and the University’s campus.

This multi-million pound investment will lead to the creation of at least 40 new jobs at the foodstore, multiple opportunities for small businesses in the Food Village, and contribute significantly to the economic regeneration of the town and the surrounding area.

This website tells you more about our plans to bring an award-winning Aldi to your area and explains how you can provide us with your feedback on our proposals.