Datganiad Preifatrwydd
Trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon, rydych yn cytuno y gallwn ddal a phrosesu’ch data personol mewn perthynas â’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus hwn.
- Byddwn yn rhannu eich data personol â thîm cynllunio Aldi at ddibenion gwerthuso cynllunio yn unig.
- Ni ddefnyddir eich data personol adnabyddadwy at unrhyw ddibenion eraill heb eich cydsyniad.
Byddwn yn defnyddio’ch data i:
- Anfon diweddariadau atoch am y prosiect (pan fyddwch yn darparu’ch manylion cyswllt).
- Datblygu Datganiad Cynnwys y Gymuned (neu ddogfen debyg) am yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn, a gaiff ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio neu gorff tebyg; bydd hon yn ddogfen sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd eich sylwadau’n ddienw, ac ni fyddwn yn eich enwi yn yr adroddiadau heb eich caniatâd pendant.
Os byddwch yn darparu eich manylion cyswllt, efallai y byddwn yn cysylltu â chi hefyd i ofyn rhagor am y sylwadau a wnaethoch.
Diogelu Data
Rydym yn cadw’r holl ddata personol yn unol â fersiwn cyfraith yr UE a ddargedwir o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ((UE) 2016/679) (y “UK GDPR”), gan ei fod yn ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003 fel y’u diwygiwyd, ac unrhyw ddeddfwriaeth olynol. Ni chaiff eich data personol eu trosglwyddo y tu allan i’r UE. Gallwch weld ein Datganiad Preifatrwydd llawn, ein Polisi Diogelu Data, ein Polisi Cadw Data a chanfod sut i wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth yn y cyfeiriad gwefan dilynol becg.com/dp neu drwy gysylltu â ni ar 01962 893 893 / dataprotection@becg.com.