Rydym yn awyddus i glywed eich adborth ar ein cynigion ar gyfer siop fwyd Aldi newydd o safon uchel ym Mhwllheli. Bydd adborth a gyflwynir cyn dydd Llun 01 Awst 2022 yn cael ei adolygu gan y tîm prosiect a’i ystyried cyn i’r cynlluniau terfynol gael eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd.

Bydd ein dulliau ymgynghori ac adborth a dderbynnir yn cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio (Adroddiad PAC), a gyflwynir fel rhan o’r cais cynllunio.

Gallwch gysylltu â ni a gadael eich adborth yn y ffyrdd canlynol:

Gwefan ein hymgynghoriad, trwy glicio’r botwm Dweud eich dweud.

Teleffon: 0800 298 7040

E-bost: feedback@consultation-online.co.uk