Dangoswch eich cefnogaeth ar gyer Aldi yn Aberaman

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus Aldi Aberaman rhwng dydd Llun 28 Tachwedd 2022 a dydd Mercher 04 Ionawr 2023. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben. Mae Aldi wedi cyflwyno’r cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gellir ei weld gan ddefnyddio’r Cyfeirnod Cynllunio 23/0294/10. Mae Aldi nawr yn ceisio cefnogaeth trigolion lleol i amlygu cymaint y mae’r Aldi ei eisiau ar y gymuned leol.

Rydym yn falch i weld fod nifer llethol – 91.1% – o ymatebwyr i’n ymgynghoriad wedi mynegi cefnogaeth i’r archfarchnad newydd. Mi fydd ein cynlluniau yn cael ei adolygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac mi allwch wneud gwahaniaeth trwy ddangos eich cefnogaeth.

Rydym yn gofyn i’r gymuned leol i ddangos eu cefnogaeth am Aldi newydd yn Aberaman, trwy fynegi i gyngor Rhondda Cynon Taf sut y byddai archfarchnad newydd yn trawsffurfio safle tir diffaith a sefydlu swyddi newydd yn y dref.

Mi fydd ein cynlluniau yn sicrhau:

  • Buddsoddiad ariannol i Aberaman gwerth sawl miliwn o bunnoedd.
  • Ail-ddatblygiad safle sydd i’w rhannu gyda What! Stores yn Aberaman.
  • Parhad i’r safle What! Stores, a safle Aldi newydd gyda ardal manwerthu o 1,380 sqm.
  • Tua 30 o swyddi newydd yn yr archfarchand, gyda swyddi pellach yn gysylltiedig â’r cyfnod adeiladwaith a thrwy’r gadwyn gyflenwi.
  • 153 o leoedd parcio ceir, gan gynnwys saith cilfach hygyrch bwrpasol, naw cilfach i rieni a phlant, dwy gilfach clicio a chasglu, 15 o leoedd i staff, a lle i barcio beiciau
  • Pedwar safle i wefru cerbydau trydan, gyda isadeiledd i ychwanegu 20 mwy yn y dyfodol.
  • Parcio am ddim am hyd at 90 munud i alluogi siopwyr i ymweld â busnesau arall ar Stad Ddiwydiannol Parc Aberaman.
  • Tirwedd atyniadol i wella ymddangosiad y safle.

Cwblhewch y ffurflen isod i ddangos eich cefnogaeth yn uniongyrchol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Cais Rhif 23/0294/10.

Mi fydd eich sylwadau a data personol yn cael ei rhannu gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chael ei gofrestru wrth ymyl cais gynllunio Aldi ar gyfer Aldi Aberaman. Mi fydd eich sylwadau ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar safle gynllunio swyddogol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mi allwch weld copi o’n Polisi Diogelu Data a’n datganiad Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yma.

Dangoswch eich cefnogaeth